"Mae darganfod a thrin anemia yn rhan annatod o egwyddorion Rheoli Gwaed Cleifion (Patient Blood Management), ac o optimeiddio canlyniadau i gleifion sy'n cael llawdriniaeth fawr.
Mae'r prosiect Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth hwn wedi ein galluogi i godi ymwybyddiaeth mewn cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gofalu am gleifion llawfeddygol, a sicrhau bod gan bob claf ar draws Cymru fynediad i addysg, sgrinio a thriniaeth ar gyfer anemia cyn llawdriniaeth, yn yr un ffordd.
Bydd y prosiect hwn yn gwneud Cymru yn un o'r cenhedloedd mwyaf blaenllaw mewn darparu’r set o egwyddorion Rheoli Gwaed Cleifion."
Arweinydd clinigol y rhaglen Anemia, Dr Caroline Evans, anesthetydd ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
"Mae'r prosiect hwn yn dangos ymrwymiad a rôl hanfodol Gwasanaeth Gwaed Cymru yng ngofal iechyd y boblogaeth, drwy hyrwyddo egwyddorion Rheoli Gwaed Cleifion yn y lleoliad amdriniaethol.
Yn sgil ein llwyddiant yn sicrhau cyllid gan Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth a recriwtio tîm arbenigol, byddwn yn sicrhau bod pob claf yng Nghymru yn cael yr un cyfle i gael eu hasesu ar gyfer anemia a lle bo'n briodol, yn cael eu trin cyn llawdriniaeth.
Bydd hyn yn lleihau trallwysiadau y gellir eu hosgoi, yn darparu gwell canlyniadau i gleifion llawfeddygol, yn diogelu'r gadwyn gyflenwi gwaed, ac yn cadw gwaed i gleifion sydd ei angen."
Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru
"Rydym yn falch iawn bod gan Gymru y cynllun Iechyd Gwaed ac yn sgil hynny, ffocws clir ar ddarparu gofal gwerth uchel.
Mae adnabod a rheoli anemia yn elfen allweddol, sydd o fudd i wella lles cleifion a helpu i wella diogelwch cleifion.
Mae'r rhaglen anemia amdriniaethol yn fenter gyffrous, ac yn un sydd mor bositif fel ein bod yn edrych ymlaen at ei gweld yn darparu manteision enfawr dros y blynyddoedd i ddod."
Gadeirydd BHNOG, Dr Brian Tehan
Byddwn yn cynnal cyfarfod i randdeiliaid ar ddydd Iau 15 Mehefin 2023; os hoffech gofrestru eich diddordeb / mynychu neu os hoffech gael mwy o wybodaeth am y rhaglen, e-bostiwch: WBS.BloodHealthTeam@wales.nhs.uk